Gwefan Cyngor Pentyrch

Un Llais Cymru

Un Llais Cymru
Sefydlwyd Un Llais Cymru ym mis Ebrill 2004 yn un corff Cymru gyfan i gynrychioli Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru. Mae mwyafrif y Cynghorau Tref a Chymuned yn aelodau ar hyn o bryd.

Cyflogwn gyfanswm o 6 aelod o staff. Yn ogystal â'n Prif Weithredwr cyflogwn 3 swyddog rhanbarthol sy'n gwasanaethu anghenion ein 16 Pwyllgor Ardal ac sydd hefyd yn arbenigo yn un o'r meysydd canlynol - cyllid hyfforddiant a marchnata & chyfathrebu. Mae gennym ddau aelod o staff gweinyddol yn ein swyddfa yn Rhydaman.

Rydym wedi rhannu Cymru'n 16 ardal, pob un ohonynt a'u Pwyllgor Ardal sy'n ethol dau aelod yr un ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol sy'n gyfrifol am reoli materion y gymdeithas. Yn ogystal â'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol mae gennym hefyd dri phwyllgor arall, sef Cyllid & Materion Cyffredinol, Addysg & Hyfforddiant a Pholisi.

Mae ein Pwyllgorau Ardal yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion o ddiddordeb i bob aelod, bach neu fawr. Gallant drafod materion sy'n croesi ffiniau cynghorau a chodi materion o bwys rhanbarthol neu genedlaethol.

Cysylltwch â ni ar 01269 595400 i gael sgwrs anffurfiol am ymuno neu e-bostiwch ni yn gweinydd@unllaiscymru.org.uk. Mae taliadau aelodaeth yn seiliedig ar faint eich Cyngor a fesurir yn ôl nifer yr aneddiadau y codir treth cyngor arnynt.

 

 

Un Llais Cymru