|
Croeswch y ffens, ewch i'r chwith, a cherddwch yn eich blaen a ffrwd ar eich llaw dde, i'r fan lle mae ffrwd arall yn ymuno â hi. Ewch yn syth yn eich blaen, gan ddilyn y llwybr a ffens a choed ar eich llaw dde. Fe ddewch at ffens arall, a ffrwd a chamfa draw ar y llaw chwith. Croeswch y gamfa a cherddwch ar draws y cae tuag at gamfa bren (uchel) arall. Tu hwnt i hon, gwyrwch i'r dde ac i lawr tuag' at lwybr ger llaw ffrwd.
Gogwyddwch i'r chwith, gyda'r ffrwd ar eich llaw dde, a dilynwch y llwybr drwy'r coed. Ewch drwy glwyd fechan ac yna drwy goedwig drwchus, nes dod allan wrth glwyd uwch sy'n arwain at ffordd a thai. Ewch ymlaen i'r gyffordd, trowch i'r dde, yna y cyntaf ar y chwith a dilynwch y llwybr isaf sy'n arwain drwy glwyd i ffordd. Trowch i'r dde, heibio i faes chwarae a chilgant o dai ar eich llaw chwith. Ewch yn eich blaen i'r gyffordd, trowch i'r chwith, cerddwch ar draws cae chwarae arall, a throwch i'r chwith am y llwybr sy'n arwain at yr orsaf.
|
|