Cyngor Cymuned Pentyrch Community Council
Creigiau - Capel Llanilltern - Gwaelod y Garth - Pentyrch
 

 

 

Gorsaf yr Heddlu
1 Heol Penuel
Pentyrch
Caerdydd
CF15 9LJ

029 20891417

Pentyrch Community Council   
Cyngor Cymuned Pentyrch

Gorsaf yr Heddlu
1 Heol Penuel
Pentyrch
Caerdydd. CF15 9LJ

Police Station
1 Penuel Road
Pentyrch
Cardiff CF15 9LJ

 029 20891417

Creigiau,   Llanilltern, Pentyrch, Gwaelod y Garth
www.pentyrch.cc
Environment, Footpaths
Common Land, Parks
Planning, Grants
Local Matters.
 
Amgylchedd, Llwybrau
Tir Comin, Parciau
Cynllunio, Grantiau
Materion Lleol

Cynllun Cymunedol >> Cynllun

On the Local Channel >> Local



CARDIFF COUNTY COUNCIL
Schools, Planning, Transport, Leisure, Parks,
Children, Families and Community Services, Benefits,
Economic Development, Environment.


County Hall,
Atlantic Wharf,
Cardiff. CF10 4UW 
 
20872087
www.cardiff.gov.uk
Emergency Numbers
Dog Warden        20711243
Cleansing         
20775344
Highways        
20785200
Housing Repairs 
20369379
Blocked Drains   
20788685 

CYNGOR SIR CAERDYDD
Ysgolion, Cynllunio, Trafnidiaeth, Hamdden, Parciau, Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Chymuned, Datblygu Economaidd,  Amgylchedd, Budd-daliadau.

Neuadd y Sir,
Glanfa Iwerydd,
Caerdydd. CF10 4UW
20872088
www.caerdydd.gov.uk
Rhifau Mewn Argyfwng
Warden Cwn         20711243
Glanhau              20775344
Heolydd              20785200
Trwsio Tai            20369379
Clirio Draen          20788685

Untitled Document

Beth mae'r Cyngor yn ei wneud?

Mae Cyngor Cymuned Pentyrch yn cynnal a chadw 45 milltir o lwybrau cyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o’r meinciau wedi eu darparu gan y Cyngor Cymuned yn ogystal â hysbysfyrddau yng nghanol y pentrefi. Mae planhigion gwyllt wedi eu plannu yn y gwrychoedd, rhoddir basgedi blodau yn yr haf a choed Nadolig ym mis Rhagfyr.

Dros y blynyddoedd mae’r Cyngor Cymuned wedi derbyn perchnogaeth o ardal sylweddol o diroedd gyda’r nod o gadw’n pentrefi rhag ddatblygiadau. Mae’r Cyngor Cymuned yn berchen ar Comin y Garth, coed a chaeau rhwng Fairmeadow a Chefn Bychan ym Mhentyrch, coedwigoedd yng Ngwaelod y Garth, y maes chwarae, coedydd a’r Pwll Broga yng Nghreigiau, a nifer o ddarnau o dir yn yr ystadau tai. Mae’n rhaid cynnal a chadw’r ardaloedd hyn am resymau diogelwch ac er mwyn rhoi pleser a modd i drigolion eu defnyddio a’u mwynhau. Mae mynwentydd Bronllwyn a Penuel o dan reolaeth y Cyngor Cymuned yn ogystal â’r Parc Coffa a’r Cofgolofn ym Mhentyrch.

Mae’r Cyngor Cymuned yn ymdrechu i sicrhau fod y cyfleusterau sylfaenol yn ein pentrefi yn cael eu cynnal drwy dynnu sylw’r awdurdodau priodol i dyllau yn y ffordd, goleuadau stryd wedi torri, glanhau’r strydoedd, gordyfiant ar balmentydd, sbwriel a fandaleiddio.

Mae Cynllunio yn faes sydd yn achosi pryder i Gynghorwyr ac yn y blynyddoedd diweddar mae’r Cyngor wedi ymladd yn erbyn nifer o geisiadau a fyddai wedi cael effaith andwyol ar ein cymunedau. Rydym wedi ymgyrchu i ddod â Band Eang i’n pentrefi. Rhoddir cefnogaeth ariannol ac ymarferol i nifer o fudiadau lleol. Mae’r Cyngor Cymuned yn Ymddiriedolwyr i Neuadd y Pentref Pentyrch ac mae cyrff eraill yn ystyried hynny. Mae’r Cyngor Sir a Llywodraeth y Cynulliad yn ymgynghori â ni ar wahanol bynciau.


 

Aelod
Un Llais Cymru One Voice Wales
Member


 

 


 


Mae’r Cyngor Cymuned yn anelu i gyflawni gwellhad i’n amgylchedd, cyfoethogi ansawdd bywyd a chadw’r amrywiaeth o fywyd lleol. Bydd y Cyngor yn ymdrechu i gadw cymeriad gwledig y pedwar pentref a chadw eu hunaniaeth lleol.
On Llais Cymru - One Voice Wales
The Community Council aims to achieve an improvement in our environment, to enrich the quality of life and preserve the diversity of local life. The Council will endeavour to protect the rural character of the four villages and retain their local identity.