|
Llongyfarchiadau i Catrin Dafydd, o Waelod y Garth, am ennill y Fedal Lenyddiaeth a hefyd dod yn agos i'r brig yng nghystadlaethau'r Fedal Ddrama a'r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd 2005. Thema 10 deg cerdd Crwydryn, sy'n disgrifio'r ddinas fel person, fel cyn-gariad, oedd Ymadael a Dychwelyd. Mae'r bardd yn sôn am newid agwedd - mae'n teimlo'n ddierth yn lle bod yn gartrefol wrth fynd yn ôl i Gaerdydd am ei bod hi wedi newid fel person. Y dylanwadau arni, meddai Catrin, oedd y nofelwyr Gabriel Garcia Marquez, Mihangel Morgan a cherddoriaeth Nina Simone a Stevie Wonder. Aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen cyn astudio'r Gymraeg a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, lle bu'n llywydd Undeb y Myfyrwyr Cymraeg am flwyddyn. Erbyn hyn, hi yw ymchwilydd yr Aelod Seneddol Adam Price a'r Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas.
|
|